Llwybr Placiau Glas y Bont-faen

Cowbridge Blur Plaque Trail Jpeg

Dewch i ddarganfod Llwybr Placiau Glas y Bont-faen

Y Derwydd Hynafol, 44 Eastgate

Efallai taw hwn yw’r tŷ hynaf yn y Bontfaen y mae pobl yn dal i fyw ynddo. Cafodd y tŷ deulawr o'r 18fed ganrif ei adeiladu ar dir hanner bwrdais ond mae'n cuddio tŷ llawer hŷn o'r 14eg ganrif a adeiladwyd y tu allan i'r waliau. Mae'n debyg taw hostel fyddai hwnnw ar gyfer pererinion ar eu ffordd i Dyddewi. Yn y 19eg ganrif, cafodd ei droi'n dafarn. Sylwch y placiau gyda griffwns. 

Preswylfa breifat. 

Sinema Pafiliwn, 60 Eastgate

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei ddatblygu ar ddwy lain bwrdais. Cafodd ei rannu'n ddwy yn y 18fed ganrif er mwyn cynnwys cwrt gêm bêl i'r dref (fersiwn Gymreig o gwrt pumoedd) lle mae’r hen sinema'n sefyll erbyn hyn, a thafarn i’r gorllewin gan gynnwys tafarn Wheelwrights' Arms. Câi hon ei rhedeg gan y gŵr hynod, Richard Aubrey, ers talwm a ddyfeisiodd feic hedfan. Cafodd y sinema 250 sedd ei agor yn 1925. Hwn oedd y cyntaf a’r unig sinema a agorwyd yn y Bont-faen. Uchod, roedd ystafell ddawns hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau dinesig gan gynnwys cyflwyno rhyddid y fwrdeistref i David Lloyd George yn 1933, yr unig Brif Weinidog a hanai o Gymru. Cafodd y rhan fwyaf o’r adeilad ei ddifetha gan dân yn 1942 a chafodd ei ddefnyddio wedi hynny fel depo gan y Cyngor a oedd eisiau ei ddymchwel. Cafodd ei adfer yn yr arddull Art Deco, ac mae swyddfeydd yn yr adeilad ers 1996. 

Ty Mawr, 32-34 High Street

Mae bellach yn fferyllfa gyda fflatiau uwchben, ond mae'r adeilad rhestredig Gradd II* arbennig hwn yn dyddio o’r 16eg ganrif. Yn wreiddiol, teulu Carne o Faenor Nash a oedd yn berchen arno. Yn 1763, cafodd ei werthu i Daniel Durel, pennaeth yr Ysgol Ramadeg; câi ei ddefnyddio fel tŷ yn y dref ar gyfer diddanu gwesteion yn ystod y tymor. Roedd ganddo berllannau, gerddi a cherbyty yn y cefn. Cafodd ei rannu’n ddwy yn y 1840au ac erbyn yr 1870au roedd ysgol breswyl fach i ferched yn yr hanner ar y chwith. Tua’r un dyddiad, daeth yr hanner arall yn fferyllfa a chafodd yr wyneb blaen presennol ei ychwanegu. Yn 1922, cafodd rhif 32 ei brydlesu i'r Ysgol Ramadeg fel tŷ preswyl. Mae’r fferyllfa bresennol yn dyddio o 1946.

Duke of Wellington 221 sq

 

Dug Wellington, 48 High Street

Mae hon yn set gymhleth o adeiladau o'r Oesoedd Canol diweddar sy'n sefyll ar 3/4 o randir bwrdais. Mae llawer o nodweddion canoloesol yn y tu mewn a neuadd ddawns â tho siâp casgen. Mae’n dafarn ers yr 17eg ganrif.  Câi ei adnabod fel tafarn Half Moon yn wreiddiol ond cafodd yr enw ei newid i Dafarn Black Horse o tua'r 1820au ac eto yn y 1840au i'r Coach and Horse. Mae’r enw presennol yn dyddio o’r 1860au yn dilyn marwolaeth y Dug yn 1852; byddai'n sefyll yma'n aml ar ei ffordd i weld y Cadfridog Picton yn Ferryside. Cafodd ei brynu gan y bragdy yng Nghaerdydd, Brains, yn 1919.   

 

 

Tŷ Caercady, 58 High Street

Mae’r tŷ tri llawr hyfryd hwn gyda ffenestri cain a phortico’n dyddio o’r cyfnod Georgaidd. Hwn oedd tŷ tref y teulu Thomas o Gaercadi ger Sain Dunwyd. Ym 1879 cafodd ei brydlesu i Edward Ord, cyfreithiwr lleol, ond roedd hefyd wedi’i hen gysylltu â meddygon gan gynnwys Dr Swann a gafodd ei ddal gan for-ladron o Algeria yn y 1840au. Dr Charles Booth Mellor oedd ei breswylydd mwyaf enwog a symudodd yno o Swydd Efrog. Dywedwyd bod ganddo’r feddygfa fwyaf yng nghefn gwlad Cymru. Roedd yn cael ei adnabod am drin pawb beth bynnag oedd eu statws cymdeithasol. Teithiodd gyda cherbyd a cheffyl hyd nes iddo brynu car yn y 1920au. Ar ôl iddo farw yn 1936, cymerodd ei wraig a’i ferch yr awenau yn y feddygfa. Mae’r tŷ yn parhau i fod ym meddiant y teulu Mellor 100 yn ddiweddarach. 

 

 

Old Hall 221 sq

Yr Hen Neuadd, High Street

Caiff ei adnabod orau fel tŷ tref y teulu Edmondes a ddatblygodd y safle hwn yn y 1740au ar gyfres o saith rhandir bwrdais gan gynnwys un a oedd yn perthyn i un a oedd yn bridio cwningod – un o brif fwydydd y cyfnod. Yn 1778 cafodd rhan ohono ei phrydlesu i William Brown, barnwr o Massachusetts a ddaeth, yn dilyn colled y gwladfeydd yn America, yn Llywodraethwr ar Bermuda. Erbyn y 1840au, roedd yr Edmondes wedi dod yn deulu cefnog a oedd yn berchen ar dir yn y Bont-faen, y Fro a thir a oedd â glo ynddo draw yn y mynyddoedd. Ar ôl marwolaeth y Parchedig Thomas Edmondes ym 1892, cafodd y ddwy ran o’r eiddo eu cyfuno ac ychwanegwyd y ffrynt presennol sydd yn arddull y Tuduriaid. Roedd gan gefn y tŷ ffenestri Fenisaidd pert a oedd yn wynebu gardd Fictoraidd gyda choed mawr, cwrt tenis lawnt a gardd gegin. Ym 1932, cafodd y tŷ ei brydlesu i’r Ysgol Gramadeg a dyma le roedd dosbarthiadau’r labordai gwyddoniaeth a’r ystafell staff. Heb ddigon o arian i’w gynnal, gwaethygodd cyflwr yr adeilad a peidiodd defnydd ohono ym 1964. Ar ôl 10 mlynedd o esgeulustod, ceisiodd Cyngor De Morgannwg werthu’r neuadd, a dim ond gwrthwynebwyr lleol a rwystrodd waith i’w ddymchwel. Yn dilyn gwaith i’w adfer yn rhannol, mae coleg cymunedol a swyddfeydd ynddo bellach. Mae Ymddiriedolaeth Siarter y Bont-faen yn adnewyddu’r gerddi. 

Tafarn The Mason’s Arms (The Market Place bellach) 

Mae hyn yn enghraifft brin o dŷ tref neuadd dwy uned sydd a adeiladwyd i mewn i waliau’r dref yn 1400 ar ochr Porth y Gorllewin. Cafodd hwnnw ei ddymchwel yn 1754 ac ar ôl hynny daeth yn dafarn. Ychwanegwyd llawr yn y 18fed ganrif. Yn 1888, symudwyd marchnad y castell o’i leoliad canoloesol yn High Street i safle cyferbyn â’r dafarn a elwodd ar syched ffermwyr fwy na thebyg. Cafodd ei werthu i Gwmni Bragu Ely yn 1919 ac yn ddiweddarach, cafodd ei brynu gan yr Hancocks. Agorodd bwyty The Market Place yn 2005. Y tu mewn, mae rhan o wal y dref i’w gweld yn ogystal â nodweddion canoloesol eraill. 

Costa Coffee, 14 High Street

Mae’r plac hwn – a godwyd yn hir cyn y cynllun placiau glas – er cof am Edward Williams (1747 – 1826), sy’n cael ei adnabod orau fel ‘Iolo Morgannwg’ a oedd yn cadw siop yma yn y 1790au. Mae’r  geiriad Cymraeg yn nodi y bu’n ‘Saer Maen, Bardd Rhyddid, Hynafiaethydd, ac un o Gymwynaswyr Mwyaf Llên a Hanes Cymru’. Roedd yn bob un o’r rhain ac yn fwy na hynny – roedd yn lluniwr dogfennau hanesyddol a barddoniaeth hynafol ac yn ddyfeisiwr traddodiadau megis Gorsedd y Beirdd a ragflaenodd yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn un o radicaliaid y 18fed ganrif a wrthododd werthu siwgr o Orllewin India yn ei siop oherwydd bod caethweision yn ei gynhyrchu. Efallai mai ef yw’r unig enw o’r Bont-faen a adwaenir yn rhyngwladol. Mae ganddi gysylltiad hir â busnes peiriannau amaeth y teulu Bird ac mae bellach yn gangen Costa Coffee. 

Bythynnod y Nadolig, 6-7 Heol yr Eglwys

Yn dŷ sengl yn wreiddiol, mae’n debyg y cafodd y bythynnod eu hadeiladu yn y 15fed ganrif ar gyfer y caplan a oedd yn gwasanaethu yn yr eglwys gyferbyn, Holy Cross. Efallai cawson nhw eu henw presennol o’r Fari Lwyd, y penglog ceffyl a gâi ei gario drwy’r dref adeg y Nadolig. Maen nhw wedi newid lawer dros y canrifoedd, ond mae dal gan y bythynnod osodiadau a nodweddion o ansawdd uchel fel lleoedd tân carreg a phyrth bwaog sy’n dyddio o’r oesoedd canol. 

Preswylfeydd preifat. 

Cowbridge Grammar

Yr Hen Ysgol Gramadeg, Heol yr Eglwys

Sefydlwyd yr Ysgol Gramadeg yn tua 1608 gan y teulu Stradling. Roedd ym meddiant Jesus college, Rhydychen o 1685 i 1919. Cafodd yr adeilad presennol ei adeiladu yn 1849-52 yn yr arddull Tudur Gothig gan y pensaer John Prichard a wnaeth hefyd adfer Eglwys Gadeiriol Llandaf. Daeth yn rhan o Ysgol Uwchradd y Bont-faen yn 1974 ond peidiodd y defnydd ohono yn y 1990au cynnar. Heb ei ddefnyddio am rai blynyddoedd, mae wedi’i adfer yn ofalus ac mae wedi’i drosi’n fflatiau. Addysgodd yr Ysgol Gramadeg lawer o ddynion mawr eu bri yn ei hanes hir – Syr Anthony Hopkins, yr actor, yw’r disgybl yn ein dyddiau ni a adwaenir orau a fu’n ddisgybl yma yn y 1950au. Nodedr y plac i Alun Lewis, y bardd a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd, a fu’n ddisgybl rhwng 1926 a 1932. 

Eiddo preifat.

Town Wall Cowbridge 221 sq

Muriau’r Dref

Adeiladwyd waliau tref y Bont-faen yn y 13ydd ganrif. Mae’n debyg y digwyddodd hynny yn fuan ar ôl i’r siarter bwrdeistref gyntaf gael ei dyfarnu yn 1254 gan Richard de Clare, arglwydd Morgannwg. Cafodd llawer o’r wal a oedd yn sefyll ei hailadeiladu yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ond mae Porth y De – yr unig un o’r pedwar porth gwreiddiol sydd wedi goroesi – a bastiwn y de-orllewin yn sefyll ers mwy na 700 o flynyddoedd. Mae’r Bont-faen, yn unig ynghanol bwrdeistrefi hynafol Morgannwg, dal yn meddu ar rywfaint o’i hamddiffynfeydd canoloesol. Mae’r rhan o’r wal ar ochr de gerddi’r Hen Neuadd a’r Ardd Ffisig wedi’i hadfer yn y 10 mlynedd diwethaf. 

 

Tafarn The Spread Eagle Inn ac Academi Spread Eagle, 1 Westgate 

Roedd hon yn dafarn gyda’i bragdy ei hun yn y cefn. Roedd ganddi ystafell ymgynnull ar y llawr cyntaf sydd wedi’i hadfer yn dda o’r enw yr ‘Ystafell Minstrel’ a honno gynt yn cael ei defnyddio gan gerddorion a fyddai’n chwarae ar gyfer boneddigion y Bont-faen. Pregethodd John Wesley yma ar sawl achlysur. Symudodd ysgol breifat o’r enw Eagle Academy i mewn i’r adeilad dros y 1790au, a hon oedd yr ysgol mwyaf ei bri o blith yr ysgolion o’r math hwn yn y dref yn y 19eg ganrif. Ar ôl 1880 ac yn ystod y rhan fwyaf o’r 20fed ganrif, cafodd ei defnyddio i gadw grawn a nwyddau amaeth. 

Mae’r adeilad yn eiddo busnes.

Tŷ Woodstock, 83 High Street

Mae’r wedd flaen hyfryd o’r 18fed ganrif, ond mae’n debyg bod yr adeilad, sy’n gyfagos â Phorth Gorllewin y Bont-faen, yn llawer hŷn. Roedd John Wyndham o Ddwnrhefn yn byw yma yn 1640 ac roedd yn talu treth at ddeg aelwyd cyn etifeddu castell ac ystâd ei dad. Mae’r enw arno erbyn heddiw er cof am y teulu Stockwood yn ôl y sôn. Roedd hwn yn deulu o gyfreithwyr a oedd yn byw yma yn ystod ail hanner yr 19eg ganrif. Swyddfeydd y Llywodraeth oedd Tŷ Caercady yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae bellach wedi’i rannu’n fflatiau. 

Preswylfeydd preifat. 

Bear Hotel 221 sa

Gwesty The Bear, 63 High Street

The Bear oedd prif dafarn y Bont-faen yn y 18fed ganrif, ac roedd ganddi ystafell ymgynnull urddasol ar gyfer cyfarfodydd pwysig ac adloniant. Dyma’r lle y byddai coetsis post a fyddai’n teithio i Lundain ac yn ôl yn dod i newid ceffyl. Bu’n dŷ preifat gynt o ryw ddyddiad yn ddiweddarach yn yr oesoedd canol, ac roedd yn eiddo i sgweieriaid Plas Llanmihangel. Mae dal modd gweld nodweddion canoloesol (yn enwedig yr Is-grofft a’i fowtiau carreg) ond mae’r wedd flaen a welir o’r stryd yn dyddio o’r 18fed ganrif. 

 

Town Hall 221 sq

Neuadd y Dref

Cafodd Neuadd y Dref ei haddasu a’i hymestyn ym 1830 o’r adeilad House of Correction neu Bridewell a adeiladwyd yn 1806. Roedd y neuadd dref neu’r neuadd gildiau wreiddiol yn sefyll yn y ffordd ar bwys tafarn Duke of Wellington a chafodd ei dymchwel er mwyn gadael i’r traffig gyrraedd y briffordd. Yn Neuadd y Dref roedd siambr y cyngor tref hynafol hyd nes y cafwyd gwared arni yn 1974 pan gymerodd y Cyngor presennol ei le. Am lawer o flynyddoedd, roedd gorsafoedd heddlu a thân yn yr adeilad.  Roedd yr arcêd crwn ar hyd ochrau’r adeilad ar un adeg yn agored ac yn cael eu defnyddio fel marchnad cynnyrch. Cafodd y cloc ei gyflwyno i’r dref gan Esgob Llandaf yn 1836. Mae Amgueddfa’r Bont-faen yn defnyddio’r hen gelloedd. 

Cymdeithas Hanes y Bont-faen

Hoffem gydnabod Cymdeithas Hanes y Bont-faen am ddarparu'r holl wybodaeth ar Lwybr Glas y Bont-faen. Diolch yn fawr iawn.

Mae Bro Morgannwg yn lle gwych i fynd i gerdded

Bydd ein cyfres o ddeg Llwybrau’r Fro yn eich helpu i ddarganfod byd teithiau cerdded arfordir a chefn gwlad cerdded ar garreg eich drws. Mae hyn yn cynnwys Llwybr Iolo Morgannwg yn y Bont-faen ac o'i gwmpas. Mae'r lleoedd o ddiddordeb yn gysylltiedig â Iolo Morganwg i roi blas ar nifer o wahanol agweddau o'i fywyd a'i gymeriad.

Ar hyd Arfordir garw Treftadaeth Morgannwg y Fro gallwch ddarganfod y goleudy chriw olaf yng Nghymru (awtomataidd mor ddiweddar â 1998). Mewndirol, cerddwch yn ôl troed un o gymeriadau mwyaf lliwgar y Fro ar daith gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg. Os ydych yn meiddio -mentrwch ar daith Y Cae Ysbryd lle byddwch yn dod ar draws y Siambr Gladdu Neolothic Tinkinswood - mae'r carreg cap yn un o'r mwyaf yn Ewrop.

Tra byddwch chi allan peidiwch ag anghofio i dalu ymweliad i rai o'r tafarnau llawn cymeriad a chaffis clyd ar hyd y ffordd, lle mae croeso cynnes yn eich disgwyl.

Peidiwch colli ein App Hanesion y Fro newydd. Mae'r app yn adrodd y’r holl straeon y tu ôl i'r llwybrau. Byddwch yn clywed hanesion am fradwriaeth, rhamant, chwedlau, iconau Hollywood a gweithredoedd llwfr gan fôr-ladron enwog. Bydd eich teithiau cerdded yn dod yn fyw gyda hanesion gwir y Fro. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho'r App ac yn casglu eich map cyn i chi fynd.